Gwrthod newidiadau i'r A470 ym Mhowys
- Cyhoeddwyd

Dywedodd Russell George AC ei fod yn "siomedig" gyda'r penderfyniad
Mae cais i gynyddu'r niferoedd o arhosfannau a lleiniau pasio ar ran o ffordd yr A470 ym Mhowys wedi cael ei wrthod.
Roedd na alwadau am fwy o safleoedd o'r fath er mwyn i yrrwyr aros am ysbaid neu basio cerbydau eraill rhwng Llanidloes a'r Drenewydd, gyda'r cyngor cymuned lleol yn dadlau mai dim ond dau safle priodol oedd ar hyd y darn yma o'r ffordd.
Ond mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod y cais, gyda'r Gweinidog Trafnidiaeth Edwina Hart yn dweud fod 18 lleoliad ar hyd y ffordd lle mae'n bosib i gerbydau fynd heibio rhai eraill.
Dywedodd Aelod y Cynulliad dros Faldwyn Russell George ei fod yn "siomedig" gyda'r penderfyniad.