Canran sydd wedi cytuno i roi organau yn gostwng

  • Cyhoeddwyd
Organ

Mae canran y bobl sydd wedi cytuno i roi organau ar gyfer trawsblaniadau yng Nghymru wedi gostwng, ond mae'r achosion pan roddwyd organau wedi cynyddu, yn ôl adroddiad sy'n cael ei gyhoeddi ddydd Llun.

Mae cynnydd wedi bod yn nifer y bobl sydd yn disgwyl am drawsblaniad hefyd, yn ôl yr adroddiad.

Yn ôl yr adroddiad ar roi organau a thrawsblaniadau gan y Gwasanaeth Iechyd am 2014, fe wnaeth nifer y bobl oedd yn cytuno i roi organau ostwng ychydig o'i gymharu gyda'r flwyddyn flaenorol.

Roedd y ganran o bobl oedd yn cytuno i roi organau yn 48.5% o'i gymharu â 53.6% yn 2013.

Yn 2014-15 roedd 73 o bobl marw o Gymru wedi rhoi organau, o'i gymharu â 60 yn y flwyddyn flaenorol, ond roedd gostyngiad cyffredinol yn nifer y trawsblaniadau gafodd eu cwblhau - sef 173 i gyd, o'i gymharu gyda 209 yn 2013-14.

Rhesymau

Mae nifer o resymau yn gyfrifol am y newid yn nifer yr organau sy'n cael eu cynnig o flwyddyn i flwyddyn yng Nghymru yn ôl Llywodraeth Cymru.

Gall hyn ddibynnu ar nifer y rhoddwyr sydd ar gael neu'r nifer o deuluoedd sydd yn derbyn cais i roi organau.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mark Drakeford: "Mae llawer o bobl yng Nghymru wedi cael trafodaeth gyda'u teuluoedd am eu dymuniad o ran rhoi organau ac mae hyn yn newyddion da.

"Ond, fel mae ffigyrau diweddar yn dangos, mae'n rhaid i ni barhau i ganolbwyntio ar gynyddu'r gyfradd rhoi organau er mwyn i fwy o bobl dderbyn trawsblaniadau fydd yn achub eu bywyd.

"Mae naw allan o 10 o bobl yng Nghymru'n cefnogi rhoi organau, ond dim ond tri allan o 10 o bobl Cymru sydd wedi rhoi eu henwau ar y Gofrestr Rhoi Organau."

'Siarad am roi organau'

Ychwanegodd Mr Drakeford: "Yn y flwyddyn ddiwethaf, bu farw 12 o bobl yng Nghymru wrth aros am drawsblaniad.

"Rwyf am hybu pawb yng Nghymru i siarad am roi organau fel ein bod yn gallu sicrhau fod llai o bobl yn marw wrth aros am organ.

"Fe fyddwn yn newid y gyfraith rhoi organau ar 1 Rhagfyr ac yn symud o system optio-allan i un o gydsynio - bydd ein hymgyrch i hybu pawb i siarad gyda'u teuluoedd yn gymorth i greu'r newid yma."