Darganfod corff dyn ar ochr ffordd ym Mhort Talbot
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu yn ymchwilio i farwolaeth sydyn dyn 70 oed ym Mhort Talbot.
Cafodd corff y dyn ei ddarganfod ger ffordd yr A48 ym Margam rhwng Amlosgfa Margam a maes chwaraeon Tata.
Mae Heddlu De Cymru'n credu fod y dyn o Faglan ond nid yw wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto.
Cafodd ei ddarganfod am 22:00 ar nos Wener 17 Gorffennaf.
Bydd post mortem yn cael ei gynnal i geisio dod o hyd i achos y farwolaeth.
'Ffordd brysur'
Roedd yn gwisgo dillad loncian du ac esgidiau du.
Mae'n cael ei ddisgrifio fel dyn tenau gyda gwallt llwyd.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Mark Kavanagh: "Rydym yn apelio ar unrhyw un sydd wedi gweld dyn sy'n debyg i'r disgrifiad rhwng 18:00 a 22:00 ar nos Wener i gysylltu gyda ni.
"Mae'n bosib ei fod wedi cerdded i ble cafodd ei ddarganfod ar hyd y ffordd fawr o ganol Port Talbot i Fargam sydd yn ffordd fawr brysur."
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un gyda gwybodaeth ffonio 101 neu Taclo'r Taclau ar 0800 555 111.