Achub dynes o hen bwll chwarel yng Ngwynedd

  • Cyhoeddwyd
DynesFfynhonnell y llun, ASRT

Bu'n rhaid i ddynes 61 oed gael ei hachub gan dîm achub mynydd a hofrennydd ar ôl iddi gael ei tharo'n wael a disgyn yn ddisymwth mewn llecyn anghysbell yng Ngwynedd.

Cafodd Tîm Chwilio ag Achub Aberdyfi eu galw ar ôl i ambiwlans fethu a chyraedd y ddynes oedd yn Chwarel Llyn Glas ger y Friog ddydd Sadwrn am 13:40.

Bu'n rhaid cludo'r ddynes ar droed i lawr y dyffryn er mwyn cyfarfod yr hofrennydd achub, cyn iddi gael ei hebrwng i'r ysbyty am driniaeth.

Ffynhonnell y llun, jeremy bolwell