Marwolaeth Port Talbot: Ymchwiliad yn parhau

  • Cyhoeddwyd
Port TalbotFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Fe gafwyd hyd i gorff y dyn nos Wener ar ochr ffordd yr A48

Mae ymchwiliadau'n parhau i farwolaeth dyn ar ôl i aelod o'r cyhoedd ddod o hyd i'w gorff ar ochr ffordd ym Mhort Talbot.

Mae'r heddlu'n credu bod y dyn yn 70 oed ac yn dod o Faglan.

Cafwyd hyd i'w gorff nos Wener ar ochr ffordd yr A48 rhwng Amlosgfa Margam a chae chwaraeon Tata.

Nid yw'r dyn wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto ac fe fydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal.

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth. Roedd y dyn yn gwisgo tracsiwt du gyda chrys isaf gwyn ac esgidiau du. Roedd yn denau gydag wyneb tenau a gwallt llwyd.