Gadael Ewrop yn 'drychineb' i amaeth
- Cyhoeddwyd
Byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn "drychinebus" i'r diwydiant amaeth yng Nghymru, yn ôl y dirprwy weinidog sydd yn gyfrifol am y diwydiant.
Dywedodd Rebecca Evans y byddai colli £240m yn flynyddol heb sicrwydd am arian yn ei le gan lywodraeth y DU yn niweidiol dros ben.
Dywed ffermwyr eu bod yn dibynu ar daliadau'r Polisi Amaeth Cyffredin o Ewrop.
Ond mae pennaeth plaid UKIP yng Nghymru yn dadlau nad oes rheswm pan na fyddai taliadau i ffermwyr yn parhau petai Prydain yn pleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Wrth siarad cyn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ddydd Llun, dywedodd Ms Evans fod 92% o gig eidion Cymru a 93% o gig oen Cymru yn cael eu hallforio i wledydd Ewropeaidd yn flynyddol - a bod hyn werth 3175m i ffermwyr Cymru.
Ychwanegodd: "Byddai gadael Ewrop yn cael effaith ddinistriol iawn ar ffermwyr Cymru. Rwyf wedi fy syfrdanu gan sylwadau rhai sylwebyddion naïf sy'n mynnu y byddai na lai o fiwrocratiaeth ac y byddai ffermwyr yn dal i gael yr un gefnogaeth ariannol petai ni allano Ewrop."
"Mewn gwirionedd, fe fyddai tynnu allan o'r Undeb Ewropeaidd, a'r effaith fyddai hyn yn ei gael ar y Polisi Amaeth Cyffredin, yn drychinebus i amaethyddiaeth Cymru."
Mae'r ffarmwraig Lorraine Howells yn credu y byddai'n ei chael yn anodd ymdopi heb daliadau'r Polisi Amaeth Cyffredin, sydd yn cefnogi ffermwyr, cefn gwlad a chymunedau cefn gwlad.
"Fe fyddai'n rhaid i ni gystadlu'n erbyn yr holl sectorau eraill ac nid oes gennym obaith pan fod iechyd ag addysg ac yn y blaen, y bydde'n rhaid i ni gystadlu yn ei erbyn," meddai.
"I mi mae ffermio'n bwysig achos nid oes modd i chi wneud unrhyw beth - nid oes modd i chi addysgu neb os nad ydyn nhw'n bwyta, nid oes modd i chi eu gwella os nad ydyn nhw'n bwyta ac rydym ni'n cynhyrchu'r bwyd iddyn nhw."
Ond dywedodd Nathan Gill, arweinydd UKIP yng Nghymru, sydd o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd, y gallai taliadau i ffermwyr ddod o'r arian y byddai'r llywodraeth yn ei arbed drwy adael yr Undeb Ewropeaidd.
"Mae'r DU yn rhoi mwy i mewn i'r Undeb Ewropeaidd o ryw £10bn y flwyddyn ac mae'n cynyddu, mae'n cynyddu pob un flwyddyn", meddai.
"Beth mae UKIP yn ei ddweud ydi pan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd fe fyddwn yn dal i allu gwneud taliadau'r Polisi Amaeth Cyffredin i'n ffermwyr. Nid oes unrhyw reswm pam na allwn ni."