Dyn yn yr ysbyty wedi argyfwng awyren fechan yn y Bannau

Bannau Image copyright John Brightley/Geograph

Mae dyn 81 oed wedi ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd ar ôl i awyren fechan orfod glanio mewn argyfwng yn ddirybudd ym Mannau Brycheiniog ym Mhowys.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ger pentref Cathedin am 16:14 ddydd Sul.

Dywedodd llefarydd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru bod y person wedi ei gludo i Ysbyty Treforys yn Abertawe gyda man anafiadau.

Cafodd dau o griwiau Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw i'r digwyddiad o Grughywel ag Aberhonddu.

Credir mai'r peilot oedd yr unig berson oedd ar yr awyren.