Teulu wedi cael gorchymyn i ad-dalu budd-dal dyn marw
- Cyhoeddwyd

Mae teulu dyn marw wedi derbyn ymddiheuriad ar ôl cael gorchymyn i dalu £41 o'i fudd-dal yn ôl oherwydd ei fod wedi cael ei dalu am y pedwar diwrnod wedi ei farwolaeth.
Fe ysgrifennodd yr Adran Gwaith a Phensiynau at deulu Chae Bennett yn cydnabod ei farwolaeth a gofyn am yr arian yn ôl.
Fe gafodd Mr Bennett, 21 oed o'r Barri, ei ddarganfod yn farw ar 15 Ebrill.
Dywedodd ei deulu fod y penderfyniad i ofyn am yr arian yn ôl yn fel "ffiaidd" ac mae'r adran wedi cadarnhau ei bod wedi cael gwared ar y ffi.
Dywedodd mam Mr Bennett, Rachel Degaetano, 45 oed: "Fe wnes i grio yn gyntaf ac wedyn wnes i golli fy nhymer. Rwy'n meddwl fod yr holl beth yn amharchus.
"Mae digon yn mynd ymlaen, yn enwedig gyda chost yr angladd, ac mae rhywun yn galaru."
Dywedodd llythyr yr Adran Gwaith a Phensiynau at Ms Degaetano ei bod yn "ddrwg ganddyn nhw i glywed" am farwolaeth ei mab ac egluro y gallai gordaliad ddigwydd o dan yr amgylchiadau hyn.
Ychwanegodd: "Rydyn ni'n gobeithio eich bod yn gwerthfawrogi pan fo arian cyhoeddus yn cael ei dalu yn anghywir, mae'n rhaid i ni ofyn iddo gael ei dalu yn ôl."
Fe ildiodd yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi i'r AS Aled Cairns godi'r mater ac mae Ms Degaetano am roi'r arian i elusen.
Dywedodd Mr Cairns ei fod yn "falch fod canlyniad oherwydd synnwyr cyffredin".
Mae'r adran wedi dweud: "Mae dyletswydd glir arnom i ddiogelu arian trethdalwyr - a sicrhau bod dyled yn cael ei thalu yn ôl pan fo'n briodol.
"Yn yr achos yma ni fyddwn yn cymryd camau pellach."