Perygl radicaleiddio i 40 o blant yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae ffigyrau wedi datgelu bod dros 40 o bobl ifanc yng Nghymru wedi cael eu hadrodd i fod mewn perygl o gael eu radicaleiddio.
Yn y tair blynedd diwethaf, mae 41 o blant o Gymru, yn cynnwys pedwar plentyn dan 12 oed, wedi cael eu cyfeirio at raglen ymyrraeth Llywodraeth y DU
Fe gafwyd y ffigyrau gan Gyngor Penaethiaid yr Heddlu Cenedlaethol, ac mae'n dangos gostyngiad o 23 o blant yn 2012/13 i bump yn 2014/15.
Fe gafodd gyfanswm o 918 o blant yng Nghymru a Lloegr eu cyfeirio at y rhaglen.
Mae'r rhaglen yn cynnig cefnogaeth i bobl sy'n cael eu hystyried yn fregus i gael eu radicaleiddio.
Mae cyfeiriadau yn cael eu hystyried can y cyngor lleol, yr heddlu a phartneriaid yn cynnwys y gwasanaethau cymdeithasol, ysgolion, colegau a phrifysgolion.
Pobl ifanc mewn perygl o gael eu radicaleiddio:
2012/13
Dan 18 - 19
Dan 12 - 4
2013/14
Dan 18 - 13
Dan 12 - 0
2014/15
Dan 18 - 5
Dan 12 - 0