Llai o bobl yn gwylio S4C yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Ian Jones, Prif Weithredwr S4C yn ymateb i adroddiad blynyddol y sianel
Roedd gostyngiad o 6% yn nifer y bobl oedd yn gwylio S4C yng Nghymru bob wythnos yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, yn ôl adroddiad blynyddol y sianel.
Roedd 360,000 o bobl yn gwylio'r sianel am o leiaf 3 munud yr wythnos yn ystod 2014/15, o'i gymharu â 383,000 y flwyddyn flaenorol.
Yn ystod yr un cyfnod, roedd cynnydd o 10% yn nifer y bobl ar draws y DU a welodd y sianel am o leiaf 3 munud bob wythnos, o 551,000 yn 2013/14 i 605,000 y llynedd.
Dywedodd Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones, y dylai ffigyrau gwylio gael eu "trin gyda gofal", a bod darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill fel BBC 2 a Channel 4 hefyd wedi gweld cwymp o 5-7%.
Cynnydd ar-lein
Roedd cynnydd hefyd o 31% yn nifer y gwylwyr ar-lein, gyda 5.7m o sesiynau gwylio drwy wefan ac ap S4C a BBC iPlayer.
Mewn datganiad o fewn yr adroddiad, dywedodd Ymddiriedolaeth y BBC bod "gallu'r sianel i gyrraedd ac ymgysylltu gyda'i chynulleidfa craidd o siaradwyr Cymraeg yn ymddangos i fod yn newid" oherwydd apêl gynyddol o wasanaethau ar-lein, a'r gostyngiad yn ei chynulleidfa deledu craidd yng Nghymru.
Mae S4C yn derbyn y mwyafrif o'i chyllid blynyddol, tua £75m, o ffi drwydded y BBC, gyda £7m pellach gan Lywodraeth y DU.
Mae'r sianel ar fin dechrau trafodaethau manwl am ei chyllid yn y dyfodol gyda'r Ysgrifennydd Diwylliant, John Whittingdale ac Ymddiriedolaeth y BBC.
Dywedodd Mr Jones bod cynnydd yn y nifer o ail-ddarllediadau sy'n cael eu dangos gan S4C yn "fater o bryder" ar gyfer y corff llywodraethu, a rhybuddiodd bod "rhaid bod yn ofalus nad yw hyn yn arwain at wasanaeth sy'n brin o ffresni, yn enwedig yn ystod oriau brig".
Nifer o alltudion yn gwylio
Dywedodd Mr Jones hefyd bod angen i S4C newid er mwyn manteisio ar y dechnoleg ddiweddaraf i wasanaethu ei chynulleidfaoedd.
Wrth drafod cyrhaeddiad uwch y sianel y tu hwnt i Gymru, dywedodd bod hynn'n golygu bod "nifer o alltudion Cymreig yn defnyddio technoleg gyfoes yn gynyddol er mwyn eu galluogi i barhau i fod yn rhan o fywyd pob dydd Cymru trwy gyfrwng y Gymraeg, lle bynnag maent yn byw".
Dywedodd y prif weithredwr Ian Jones bod cyflwyno holl raglenni S4C i'r BBC iPlayer, ochr yn ochr â'r gwasanaeth Clic, wedi gweld nifer y gwylwyr yn cynyddu ar y ddau wasanaeth.
"Er y cynnydd amlwg yng nghyfanswm y gwylio ar y sgrin ac ar-lein, fyddwn ni ddim yn gorffwys ar ein rhwyfau, yn enwedig wrth i dueddiadau gwylio awgrymu bod llai o Gymry Cymraeg yng Nghymru'n defnyddio gwasanaethau Cymraeg.
"Ond gyda rhan sylweddol o gynulleidfa S4C yn gwylio o'r tu allan i Gymru, mae'n ymddangos bod niferoedd mawr yn gwerthfawrogi'n gwasanaeth fel modd o gadw cysylltiad â'u mamwlad, a'u mamiaith, yn ogystal â fel ffynhonnell o adloniant a gwybodaeth.
"Y flaenoriaeth nawr yw cynnal safon y gwasanaeth er mwyn parhau i gynyddu poblogrwydd y cynnwys. Fydd hynny ond yn bosib os bydd gan y gwasanaeth arian digonol wrth gwrs, ac yn hynny o beth y mae'r cyfrifoldeb arnom i gyd i sicrhau bod annibyniaeth a chyllid digonol S4C yn cael ei ddiogelu i'r dyfodol."