Car hanesyddol yn dychwelyd i Sir Gâr
- Cyhoeddwyd

Fe lwyddodd y car i gyrraedd cyflymder o 150mph 90 o flynyddoedd yn ôl
Fe fydd y car a yrrodd Syr Malcolm Campbell i dorri record cyflymder tir y byd yn dychwelyd i'r union fan lle ddigwyddodd y gamp, yn Sir Gaerfyrddin.
Fe lwyddodd y car Blue Bird, gafodd ei adeiladu yn 1919, i dorri record byd 90 o flynyddoedd yn ôl wrth iddo gyrraedd 150 mya.
Fe fydd y car, sydd bellach yn cael ei gadw yn yr Amgueddfa Foduro Genedlaethol yn Hampshire, yn cael ei yrru ar gyflymder isel gan ŵyr Syr Malcolm, Don Wales, ar draeth Pentywyn.
Cafodd y car ei danio am y tro cyntaf mewn hanner canrif y llynedd, yn dilyn gwaith atgyweirio.
Ffynhonnell y llun, National Motor Museum
Bydd y car yn dychwelyd i Sir Gar yn dilyn gwaith atgyweirio
Fe fydd ŵyr Syr Malcolm, Don Wales, yn gyrru'r car ar draeth Pentywyn