Penodi hyfforddwr newydd tîm pêl-droed Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi y bydd hyfforddwr Caerdydd, Paul Trollope yn ymuno a staff Cymru fel Hyfforddwr y Tîm Cenedlaethol.
Mae Trollope yn olynu ei gyn gyd-chwaraewr gyda Chymru a Fulham, Kit Symons, a adawodd ei swydd er mwyn canolbwyntio ar ei rôl fel rheolwr Fulham.
Dywedodd Chris Coleman: "Ar lefel bersonol a phroffesiynol, rydym yn drist iawn i golli Kit, ond rwyf yn deall y rhesymau dros ei benderfyniad ac yn dymuno'r gorau iddo yn Fulham.
"Beth bynnag, rwyf wrth fy modd ac yn falch iawn o groesawu Paul Trollope yn rhan o'r tîm hyfforddi.
"Bydd Paul yn aelod gwych o'r tîm a bydd yn gweithio'n berffaith i'r holl staff."
Fe ddywedodd Prif Swyddog Gweithredol yr Adar Gleision, Ken Choo: "Fel clwb rydym yn falch o weld Paul yn cael ei gydnabod gan y Gymdeithas Bêl-droed.
"Er ei brif ffocws fydd i barhau a'r dasg dan sylw yma gyda Dinas Caerdydd, rydym yn hapus i'r tîm cenedlaethol ddefnyddio talent Paul.
"Gyda Phencampwriaethau Ewropeaidd ar y gorwel... Does dim angen dweud eu bod yn cael ein cefnogaeth lawn yn ystod y cyfnod cyffrous hwn."
Yn dilyn y penodiad hwn, bydd Osian Roberts yn dod yn Is-reolwr i Chris Coleman.