Cau tafarn ar ôl gwerthu alcohol i 35 o bobl dan oed
- Cyhoeddwyd

Bydd y cyngor yn penderfynu a fydd Vanilla Bar yn colli ei drwydded yn barhaol
Gall tafarn yn ne Cymru orfod cau ar ôl cael eu dal yn gwerthu alcohol i 35 o bobl dan oed ar un noson.
Hefyd, daeth yr heddlu o hyd i 17 bag o bowdwr gwyn, yn ogystal â bloc o bowdwr gwyn, steroidau a chyfarpar yn ymwneud a chyffuriau yn Vanilla Bar yn y Coed Duon.
Aeth yr heddlu i'r dafarn ar 20 Gorffennaf, ac o ganlyniad mae'r dafarn wedi cael gorchymyn i gau am dri mis.
Fe fydd y cyngor hefyd yn ystyried os ddylai'r dafarn golli ei thrwydded yn barhaol.
Mae ymchwiliad i'r cyffuriau gafodd eu darganfod yn parhau.