Canolfan ymchwil ymennydd: Hwb o £4.5m
- Cyhoeddwyd

Mae Prifysgol Caerdydd wedi derbyn hwb o £4.5 miliwn o arian Ewropeaidd, i ddatblygu canolfan ragoriaeth ar gyfer ymchwil i'r ymennydd.
Bwriad adeiladu'r ganolfan newydd - Canolfan Delweddu Prifysgol Caerdydd er Ymchwil yr Ymennydd, neu CUBRIC - ydi ymchwilio i gyflyrau iechyd yn cynnwys dementia, sgitsoffrenia a sglerosis ymledol.
Bydd y cyllid gan yr UE drwy Lywodraeth Cymru yn cefnogi gwaith adeiladu'r cyfleuster newydd gwerth £44m ym Mharc y Maendy.
Mae disgwyl i'r ganolfan fod bedair gwaith yn fwy na chyfleusterau presennol y Brifysgol, gan gynnwys nifer o labordai ac offer blaengar.
Bydd y gwaith ehangu hefyd yn cynhyrchu swyddi ymchwil newydd ar y safle.
'Hynod o falch'
Dywedodd yr Athro Derek Jones, Cyfarwyddwr CUBRIC: "Rydym yn hynod o falch i groesawu cyllid yr UE sy'n sicrhau bod CUBRIC ar flaen y gad yn Ewrop ym maes delweddu'r ymennydd ac ysgogi'r ymennydd, sy'n sail i'n cartref newydd modern gwerth £44m yng Nghaerdydd.
"Mae'r ffaith y bydd CUBRIC yn cyfuno technoleg flaenllaw â set o ymchwilwyr talentog tu hwnt yn helpu i ddeall y gwahaniaethau mewn swyddogaethau arferol yr ymennydd ac achosion cyflyrau fel dementia, sgitsoffrenia a sglerosis ymledol. Yn y pen draw, bydd y wybodaeth hon yn arwain at ddatblygu triniaethau gwell."
Fe gafodd y cyllid ei gyhoeddi gan Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid, yn ystod ymweliad â'r safle fel rhan o'i Thaith ledled Cymru ar gyfer Cyllideb 2015.
Dywedodd y Gweinidog: "Mae'n bleser gen i gyhoeddi cyllid yr UE a fydd yn helpu i adeiladu canolfan ragoriaeth yng Nghymru, sydd â'r gallu i sicrhau ymchwil arbenigol iawn ar y cyd ac o'r radd flaenaf ym maes niwrowyddoniaeth.
"Dyma enghraifft ardderchog arall o sut mae cyllid gan yr UE yn cefnogi twf yn economi Cymru, drwy helpu ein sefydliadau academaidd i ddenu mwy o fuddsodiadau cystadleuol a phreifat ar gyfer gwaith ymchwil.
"Mae hynny'n sicrhau bod Cymru'n arwain ym maes ymchwil ac arloesi sy'n torri tir newydd yn fyd-eang."