Canol Caerdydd: Cerddorion yn cwyno
- Cyhoeddwyd

Fe fydd llai a llai o gerddorion a chantorion lleol yn chwarae cerddoriaeth byw mewn tafarndai a bariau yng Nghaerdydd os nad yw'r Cyngor yn newid y system barcio ar un o brif strydoedd y brifddinas.
Dyna rybudd nifer o bobl sy'n chwarae ar Heol Eglwys Fair yn rheolaidd oherwydd problemau wrth ddadlwytho offer.
Mewn un achos fe gafodd menyw ddirwy o £210 ar ôl derbyn tri thocyn parcio mewn un noson. Bu gohebydd BBC Cymru, Iolo James yn ymchwilio.
'Pen tost'
Bron i bob penwythnos, mae'r heol ble dwi'n sefyll arni nawr, Heol Eglwys Fair, un o brif strydoedd y brifddinas dan ei sang gyda thafarndai a bariau yn chwarae cerddoriaeth byw.
Alla'i weld Brewhouse, The Yard a Kiwis o 'mlaen i nawr - i enwi ond tri lle. Ers i'r heol gael ei chau i gerbydau mae hi 'di bod yn ben tost i fandiau, i gantorion ac i gerddorion sydd eisiau gollwng offer er mwyn gallu chwarae.
Mae Heulwen Thomas wedi bod yn diddanu torfeydd o bobl yn y brifddinas ers degawd, yn chwarae mewn amryw o fandiau gwahanol, ond yn ei hôl hi a nifer o'u chyd-berfformwyr, "mae'n broblem fawr ceisio dod o hyd i le saff a chyfreithlon i ddadlwytho offer".
Mae BBC Cymru wedi gweld oddeutu 15 o sylwadau gan gantorion ac aelodau o fandiau sy'n cwyno am y sefyllfa, gyda rhai ohonyn nhw'n dewis peidio gigio yn y ddinas oherwydd ei bod yn ormod o risg, neu mae'n ormod o waith i gario offer trwm o un pen y dref i'r llall.
'Darpariaeth eang'
Mewn datganiad, fe ddywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Heb wybod y manylion mae'n anodd gwneud sylw ar achos unigol.
"Mae 'na ddarpariaeth eang ar gyfer llwytho a dadlwytho ynghanol y ddinas.
"Lle bo angen mynediad penodol, mae lleoliadau yn cysylltu â'r tîm Rheoli Canol y Ddinas, ac fe fyddan nhw'n mynd ati i alluogi mynediad i ardaloedd cerddwyr pan mae hi'n ddiogel i wneud hynny.
"Mae gyrwyr sy'n defnyddio lonydd bysiau, neu'n dod i stop mewn lôn fws yn gallu bod yn drafferthus.
"Os ydi gyrwyr yn defnyddio ardaloedd sydd wedi eu neilltuo ar gyfer llwytho neu ddadlwytho, neu wedi trafod gyda'r tîm Rheoli Canol y Ddinas, fydd 'na ddim problem."