Hunanladdiad: Nifer fwyaf ers 10 mlynedd yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae nifer yr hunanladdiadau yng Nghymru ar ei fwyaf ers 10 mlynedd, yn ôl ffigyrau.
Roedd yna 355 o achosion yn 2013 wedi i'r nifer gynyddu bob blwyddyn ers 2009 a chyrraedd y nifer fwyaf ers 2003, yn ôl adroddiad Prifysgol Manceinion.
Mae'r cynnydd - sy'n eitha' tebyg i'r cynnydd yn Lloegr - yn bennaf oherwydd cynnydd achosion ymysg dynion canol-oed a dynion hŷn na hynny.
Yn ôl awduron yr adroddiad, mae'r cynnydd yn "arwyddocaol".
Er i'r gyfradd ymysg dynion rhwng 25 a 34 oed ostwng ers 2003, fe gynyddodd nifer yr achosion ymysg dynion rhwng 45-54 oed a 55-64 o 74% a 75% ers 2007.
Fis Mehefin fe ddywedodd y Samariaid eu bod nhw'n credu bod nifer yr hunanladdiadau ymysg dynion yng Nghymru wedi cyrraedd y ffigwr uchaf ers 1981.
68 o fenywod
Fe laddodd 68 o fenywod eu hunain yng Nghymru yn 2013 tra oedd 71 yn y flwyddyn cyn hynny. Mae'r ffigwr wedi aros yn debyg yn ystod y degawd a fu.
Bwrdd iechyd Cwm Taf welodd y nifer fwyaf o hunanladdiadau yn 2011-2013, gyda 14.1 ymhob 100,000 o bobl.
Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr welodd y nifer leiaf yn yr un cyfnod, gyda 10.4 ymhob 100,000 o bobl.
Bron i wythnos yn ôl fe lansiodd Llywodraeth Cymru ail ran cynllun i geisio taclo hunanladdiad a hunan-niweidio.
Mae'n cynnwys camau i adnabod symptomau yn gynnar, codi ymwybyddiaeth a rhwystro pobl rhag galluogi eu hunain i ladd eu hunain.