Marwolaeth babi: Adolygiad llawn
- Cyhoeddwyd

Fe fydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cynnal adolygiad llawn ar ôl i fabi farw yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd saith awr ar ôl cael ei eni.
Fe ddywedodd rhieni'r babi, Claire White, 27 oed o Gwmbrân, a James Eden, 36 oed, y byddai wedi bod yn bosib gwneud mwy i atal y farwolaeth.
Bu farw'r babi ym mis Mawrth.
Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd eu bod yn ymddiheuro am yr oedi.
Hylif
Cafodd y babi ei eni fis yn gynt, ar 28 Mawrth, ac roedd hylif ar ei ysgyfaint. Bu'n rhaid defnyddio peiriant cynnal bywyd ond bu farw yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.
Dywedodd y llefarydd: "Rydym yn cynnal adolygiad fel y gallwn ni drafodd yr holl wybodaeth â'r teulu ... rydym yn llwyr sylweddoli fod aros am orffen yr ymchwiliad yn boenus i bawb.
"Fe fyddwn ni'n cwrdd â'r teulu wedi i'r ymchwiliad ddod i ben a'r gobaith yw y byddwn yn cynnig dyddiad iddyn nhw o fewn ychydig o ddyddiau."