Toll Pont Hafren: Newid ar y gweill?
- Published
Yn ôl un o weinidogion trafnidiaeth yn Llywodraeth y DU, mae cynlluniau ar y gweill i newid y ffordd mae toll Pont Hafren yn cael ei chasglu gan fodurwyr.
Fe wnaeth Andrew Jones y sylw mewn trafodaeth ar y bont gafodd ei chynnal gan AS Dwyrain Casnewydd, Jessica Morden.
Fe gafodd Croesfan Dartford ei chrybwyll fel model i'w ddilyn pan fydd y bont yn ôl dan berchnogaeth gyhoeddus yn 2018.
Dywedodd Mr Jones fod y cynllun hwn "wedi gwneud arbedion amser sylweddol i fodurwyr".
Yn rhan o gynllun Dartford, fe gafodd y tollfeydd rhwng Caint ac Essex eu tynnu oddi yno, gan adael i yrwyr dalu dros y ffôn neu drwy neges destun.
Mae technoleg adnabod rhif cofrestru yn nodi'r cerbydau sy'n teithio yno, ac ydyn nhw wedi talu.
Fe ychwanegodd Mr Jones ei fod yn edrych i weld oes modd dysgu gan rannau eraill o'r DU.