Rhybudd sefydlogrwydd gwaharddiad ysmygu carchardai
- Cyhoeddwyd

Gall wahardd ysmygu mewn carchardai ar draws Cymru a Lloegr eu gwneud yn fwy ansefydlog, yn ôl Cymdeithas Llywodraethwyr Carchardai (CLLC).
Mae gweinidogion yn bwriadu gwneud y carchardai cyntaf yn rhai di-fwg y flwyddyn nesaf, tra bod carchar preifat y Parc yn ne Cymru wedi dweud y byddan nhw'n gweithredu polisi di-fwg erbyn diwedd mis Ionawr nesaf.
Mae llywydd CLLC Andrea Albutt wedi rhoi croeso "gwyliadwrus" i'r cynlluniau, ond dywedodd bod angen gwneud hynny mewn modd "diogel a cham wrth gam" gan fod 80% o garcharorion yn ysmygu.
Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder mai diogelwch oedd y brif flaenoriaeth.
'Amddiffyn aelodau'
Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu gwneud pob un o'r 136 o garchardai yng Nghymru a Lloegr yn ddi-fwg i leihau peryglon iechyd - ar hyn o bryd mae'n cael ei ganiatáu mewn celloedd ac iardiau ymarfer corff.
Daw'r penderfyniad wedi cyfres o heriau cyfreithiol gan swyddogion carchardai a charcharorion sydd ddim yn ysmygu sydd wedi cwyno am effaith mwg pobl eraill.
Mae disgwyl i Garchar y Parc ym Mhen-y-bont, sy'n cael ei reoli gan gwmni preifat G4S, wahardd ysmygu'r flwyddyn nesaf. Mae disgwyl i garchardai eraill yng Nghymru a de orllewin Lloegr wneud yr un peth hefyd.
Yn siarad ar ran CLLC, dywedodd Mrs Albutt bod y gymdeithas wedi cytuno gyda'r gwaharddiad, ond bod angen gwneud hynny yn raddol i osgoi aflonyddwch, gan fod tua 80% o garcharorion yn ysmygu.
Dywedodd y gall atal ysmygu achosi "problemau sefydlogrwydd", oherwydd ei fod yn achosi perygl o droi tybaco yn eitem anghyfreithlon all gael ei defnyddio fel "arian" mewn carchardai.
Mae Joe Simpson, ysgrifennydd cynorthwyol i'r CLLC, wedi cymharu ysmygu mewn carchardai i effaith ysmygu ar staff tafarndai cyn y gwaharddiad ar ysmygu yno.
"I gyd yr ydyn ni'n ei ofyn amdano yw rhywbeth fydd yn helpu i amddiffyn ein haelodau," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn: "Rydyn ni'n parhau i ystyried sut i leihau ysmygu ar draws carchardai ond diogelwch carchardai fydd ein prif flaenoriaeth bob tro."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2015