S4C yn arwyddo cytundeb rhyngwladol gyda Sony

  • Cyhoeddwyd
Elen Rhys
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Elen Rhys bod gan Gymru leoliadau all gael eu marchnata i gwmniau rhyngwladol

Mae S4C wedi arwyddo cytundeb gyda chwmni Sony International i gynhyrchu rhaglenni i'w gwerthu ar draws y byd.

Mae'r sianel wedi cynhyrchu cyfres o chwe rhaglen antur o'r enw Ar y Dibyn yn ardal Caernarfon.

Y gobaith yw y bydd cwmnïau teledu eraill yn prynu'r hawliau i'r rhaglen ac yn ffilmio yn yr un ardal, gan hybu'r economi yno.

Dywedodd comisiynydd adloniant S4C, Elen Rhys, bod Sony yn cynnig cysylltiadau ac arbenigedd i S4C, tra bod Cymru yn cynnig "syniadau gwych, newydd".

Daw'r cytundeb ar ôl i'r sianel gyhoeddi bod 6% yn llai o bobl yn gwylio'r sianel yng Nghymru.