Pryder am 'ansicrwydd' grantiau ffermydd solar

  • Cyhoeddwyd
Solar panelsFfynhonnell y llun, PA

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod cynllun gweinidogion Prydain i ddod a grantiau i sefydlu ffermydd solar i ben yn achosi "ansicrwydd" yng Nghymru.

Mae'r Adran Ynni a Newid Hinsawdd yn ymgynghori ar gynllun fyddai'n rhoi diwedd ar gymorthdaliadau i rai ffermydd solar erbyn 2016.

Yn ôl y Llywodraeth, mae angen gwneud hyn i ddiogelu cwsmeriaid.

Ond mae'r diwydiant paneli solar yn dadlau mai dyma un o'r ffyrdd rhataf i'r llywodraeth gyrraedd ei tharged ar newid hinsawdd.

Bygythiad

Byddai'r cynllun yn golygu nad yw ffermydd solar bychain yn gymwys i dderbyn cymhorthdal, ac fe all rhai cynlluniau newydd sy'n derbyn y cymhorthdal yn barod weld toriad i'r arian.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn "pryderu am yr ansicrwydd" sy'n deillio o'r cynlluniau, "sydd a'r potensial i fod yn fygythiad i swyddi a buddsoddiad".

Dywedodd llefarydd: "Unwaith eto, mae'n annheg i Gymru o'i gymharu â'r Alban a Gogledd Iwerddon.

"Mae hyn eto yn cryfhau ein galwad ar Lywodraeth y DU i ddatganoli pwerau dros ynni i Gymru i sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o'r potensial economaidd ynghlwm ag ynni adnewyddol fel bod cymunedau ar draws Cymru'n elwa."