BBC Cymru Fyw

Gwerthu medalau rhyfel Violette Szabo am £260,000

Published
image copyrightDix Noonan Webb
image captionCafodd medal Croes George ei rhoi i Violette Szabo ar ôl ei marwolaeth
Mae casgliad o fedalau o'r Ail Ryfel Byd, gan gynnwys Croes George gafodd ei roi i ddynes fu'n gwrthryfela yn erbyn y Natsïaid yn Ffrainc, wedi ei werthu am £260,000.
Cafodd medalau Violette Szabo eu gwerthu o fewn munud, a hynny i gasgliad yr Arglwydd Ashcroft, ac fe fyddant yn cael eu harddangos yn amgueddfa'r Imperial War Museum yn Llundain.
Roedd Szabo yn un o bedair dynes i gael Croes George, a hynny am ei dewrder wrth gynorthwyo gwrthryfelwyr yn Ffrainc yn erbyn y Natsïaid, ar ôl cael ei gyrru yno gan y Fyddin Brydeinig.
Ar ei hail daith yno, cafodd ei dal gan y Gestapo. Cafodd ei harteithio cyn cael ei lladd yn 1945.
Penderfynodd ei merch, Tania Szabo, sy'n byw ger Llanfair-ym-Muallt ym Mhowys, werthu'r casgliad gan nad oes ganddi blant ei hun er mwyn eu pasio ymlaen.
image copyrightDix Noonan Webb
image captionCafodd Violette Szabo ei lladd yn 1945 gan y Gestapo

Straeon perthnasol

  • 'Penderfyniad anodd' i werthu medal Croes Siôr ei mam