Carwyn Jones am 'warchod y GIG' rhag toriadau
- Cyhoeddwyd

Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud ei fod yn bwriadu diogelu gwariant ar iechyd ac ysgolion ond na allai wrthsefyll "toriadau enfawr".
Dywedodd Carwyn Jones y byddai Llywodraeth Cymru yn gwneud "popeth yn ein gallu i flaenoriaethu iechyd, addysg a swyddi" ond na fyddai'n gwybod manylion ei gyllideb tan yr hydref.
Mae'r Canghellor George Osborne wedi gofyn i rai adrannau Llywodraeth y DU i baratoi ar gyfer toriadau o 40% o'u cyllideb.
Dywedodd Ceidwadwyr Cymru ddydd Mercher y byddai toriadau'n sefydlogi economi'r DU.
Bydd Mr Osborne yn cyhoeddi canlyniadau ei adolygiad gwariant ym mis Tachwedd.
Byddai unrhyw doriadau ar wariant yn effeithio ar gyllideb Llywodraeth Cymru.
'Ddim yn bosib'
Dywedodd Mr Jones wrth BBC Cymru: "Dyw hi ddim yn bosib i ni warchod rhag toriadau enfawr. Ry'n ni wedi gweld toriadau o 10% i'n cyllideb ni ers 2010.
"Mae'n ddibynnol ar ein sefydliad economaidd - dyw hi ddim yn edrych yn dda.
"Ond, wrth gwrs, ry'n ni'n gwybod mai'r blaenoriaethau i bobl fydd iechyd, addysg a swyddi, ac fe fyddwn ni'n gwneud popeth yn ein gallu i wneud yn siŵr bod y blaenoriaethau'n cael eu hadlewyrchu yn ein penderfyniadau ar wariant."
Dywedodd llefarydd Ceidwadwyr Cymru ar yr economi, Nick Ramsay, bod y toriadau o ganlyniad i fethiannau economaidd Llafur yn y gorffennol.
Mewn datganiad dywedodd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt fod lansiad adolygiad gwariant y Canghellor yn gam nesaf "rhaglen llymder".
Ond dywedodd Mr Ramsay: "Rwy'n derbyn bod Llywodraeth Cymru wedi gorfod gwneud toriadau, ond mae hynny o ganlyniad i Lywodraeth Lafur yn San Steffan yn cam-drin economi'r DU yn y gorffennol."
Mae Mr Osborne wedi gofyn i rai adrannau i gynllunio dau fodel, i baratoi ar gyfer toriadau o 25% a 40%.