Cweir i Forgannwg gan Sir Gaerhirfryn ym Mae Colwyn
- Published
Fe gafodd Morgannwg gweir gan Sir Gaerhirfryn ym Mhencampwriaeth y Siroedd ym Mae Colwyn wrth i'r ymwelwyr drechu'r clwb o Gymru o fatiad a 157 o rediadau.
Roedd y fuddugoliaeth yn edrych yn anochel ers dydd Llun, wrth i bartneriaeth 501 rhediad Alviro Petersen a Ashwell Prince i'r ymwelwyr arwain iddyn nhw ddewis dod a'u batiad i ben ar 698-5.
Doedd dim chwarae'n bosib cyn 13:00 ar y diwrnod olaf ddydd Mercher oherwydd y tywydd, oed roedd hyn yn newyddion da i Forgannwg, oedd yn ceisio batio trwy'r dydd i sicrhau gêm gyfartal.
Ond fe gollodd y tîm cartref eu pum wiced olaf am 12 o rediadau'n unig, wrth iddyn nhw gael sgôr o 193.
Fe wnaeth buddugoliaeth Sir Gaerhirfryn ymestyn eu mantais ar dop yr ail gynghrair ym Mhencampwriaeth y Siroedd, 68 pwynt yn well na Morgannwg, sydd yn y trydydd safle.