Y Seintiau Newydd allan o Ewrop ar ôl amser ychwanegol
- Cyhoeddwyd
Mae'r Seintiau Newydd allan o Gynghrair Pencampwyr Ewrop wedi iddyn nhw golli o 2-1 ar gyfanswm goliau ar ôl amser ychwanegol yn erbyn Videoton o Hwngari.
Roedd her fawr yn wynebu'r Cymry yn Stadiwm Sostoi yn ninas Szekesfehervar nos Fercher wedi iddyn nhw golli'r cymal cyntaf yn yr ail rownd ragbrofol o 1-0 yn Neuadd y Parc.
Roedd hi'n ymddangos y byddai hi'n gorffen yn ddi-sgôr nes i Matthew Williams sgorio i'r ymwelwyr gyda 12 munud yn weddill i'w gwneud hi'n 1-1 ar gyfanswm goliau.
Roedd amddiffyn Y Seintiau'n ystyfnig am yr amser oedd yn weddill, ac fe aeth y gêm i amser ychwanegol.
Ond fe dorrwyd calonnau'r Cymry yn ail hanner amser ychwanegol wrth i Adam Gyurcso sgorio am yr ail waith i'r tîm cartref dros y ddau gymal.
Fe welodd Sam Finley gerdyn coch i'r ymwelwyr yn y munudau olaf, wedi iddi ymddangos iddo gicio un o chwaraewyr Videoton.
Roedd hynny'n ddigon i sicrhau gêm gyfartal ar y noson i bencampwyr Hwngari, oedd yn golygu eu bod yn fuddugol o 2-1 ar gyfanswm goliau.