Ymchwiliad i ddyfodol darlledu yng Nghymru

BBC a S4C
Image caption Bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar y 'darlun Cymraeg,' gan gynnwys darlledu yn y Gymraeg

Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig wedi cyhoeddi y bydd dyfodol darlledu yng Nghymru yn destun ymchwiliad.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor David Davies y byddai'n canolbwyntio ar y "darlun Cymraeg," gan gynnwys darlledu yn y Gymraeg.

Ddydd Iau fe wnaeth y Gweinidog Diwylliant John Whittingdale lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol y BBC.

Bydd ystyriaeth i adnewyddu Siarter Frenhinol y BBC ar ddechrau 2017.