Statws arbennig i goedwig ffosiliau

  • Cyhoeddwyd
Coedwig ffosiliauFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,
Rhedyn ffosiledig gafodd eu darganfod yn y goedwig

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi dynodi coedwig ffosiliau ym Mrymbo ger Wrecsam, sy'n hŷn na chyfnod y dinosoriaid, yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Ar y safle, sy' bron yr un maint â hanner cae pêl-droed, mae amrywiaeth o blanhigion a choed ffosiledig sy'n 300 miliwn o flynyddoedd oed.

Mae arbenigwyr wedi dweud ei fod "yn safle o safon fyd-eang".

Gweddillion planhigion a arferai dyfu mewn amgylchiadau poeth a llaith ger y cyhydedd yw'r rhain a chafodd y goedwig ei datgelu am y tro cyntaf yn 2004 ar hen safle gwaith haearn a dur Brymbo.

Mae rhan helaeth o weddillion y goedwig wedi'i chladdu o hyd er mwyn ei gwarchod.

Ar hyn o bryd mae cynlluniau ar y gweill, dan arweiniad Grŵp Treftadaeth Brymbo, i greu canolfan ymwelwyr a chloddio ar y safle cyn sicrhau amodau ar gyfer astudio ac arddangos y ffosiliau bregus.

'Adnodd addysgol'

Dywedodd Raymond Roberts, daearegwr CNC: "Bydd y dynodiad yn helpu diogelu'r goedwig ffosiliau ar gyfer y dyfodol fel adnodd gwyddonol ac addysgol heb ei ail.

"... drwy ddatblygu'r safle gyda'r arbenigedd a'r gofal priodol mae ganddo'r potensial o ddod yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid a chyfrannu at economi'r ardal."

Dywedodd Gary Brown o Grŵp Treftadaeth Brymbo: "Mae gan y safle stori ryfeddol i'w hadrodd, gan gysylltu'r hanes daearegol gyda threftadaeth ddiwydiannol Brymbo.

"Ein nod yw sicrhau arian mewn pryd i agor y ganolfan ymwelwyr a chloddio yn ystod haf 2018."

Mae rhai o'r ffosiliau gorau a phrinnaf yn cael eu cadw yn Amgueddfa Cymru ond yn mynd yn ôl i Frymbo i fod yn rhan o arddangosfa gyhoeddus cyn gynted ag y bydd adeilad addas ar gael.