Tân Casnewydd: Tri wedi eu hanafu

  • Cyhoeddwyd

Mae tri o bobl wedi eu hachub wedi tân bwriadol y tu allan i fflat yng Nghasnewydd, yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Fe gafodd y tri eu cludo i'r ysbyty wedi iddyn nhw ddioddef mân losgiadau ac effeithiau anadlu mŵg.

Yn ôl y gwasanaeth, fe ddechreuodd y tân o flaen y fflatiau ar Ffordd Malpas ym Mrynglas toc cyn 04:00 fore Iau.

Fe ddywedodd llefarydd bod sbwriel wedi ei gynnau ar dân.

Mae'r heddlu'n ymchwilio.