Dirwy o £200,000 wedi marwolaeth dyn o Benarth

  • Cyhoeddwyd
Debenhams CaerwysgFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Philip Evans mewn digwyddiad yn siop Debenhams yng Nghaerwysg

Mae cwmni adeiladu wedi derbyn dirwy o £200,000 wedi i ddyn o Gymru farw wrth ei waith.

Roedd Philip Evans - 60 oed o Benarth - yn trwsio gwydr uwchben mynedfa siop Debenhams yng Nghaerwysg pan syrthiodd.

Bu farw yn yr ysbyty wedi'r digwyddiad.

Roedd Mr Evans yn gweithio i gwmni London Fenestration Tradeso Gaerdydd, oedd dan gytundeb gan Sir Robert McAlpine. Fe blediodd y ddau gwmni yn euog i dorri rheolau diogelwch.

Fe gafoddSir Robert McAlpine ddirwy o £200,000 ond mae'r cwmni arall wedi dod i ben ers y digwyddiad ym mis Tachwedd 2011.

Fe ddywedodd y Gweithgor Iechyd a Diogelwch fod paen o wydr wedi ei symud yn rhan o waith cynnal a chadw, a doedd y gwydr heb ei roi yn ôl.

Mewn datganiad fe ddywedodd cwmni Sir Robert McAlpine: "Rydym ni'n cynnig ein cydymdeimlad dwysaf i deulu Mr Evans".