Cariad, cyfeillgarwch a chyfiawnder
- Cyhoeddwyd

Bydd Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan yn cyfrannu at Oedfa'r Bore yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau, sy'n dathlu 70 mlynedd o waith Cymorth Cristnogol. Mae'r oedfa yn cael ei chynnal yn y Pafiliwn am 10:00.
Bu'r Dr Morgan yn rhannu pwt o'i bregeth gyda Cymru Fyw.
Mae dau o'm hwyrion wedi gwirioni ar Sam Tân. Cymeriad ydoedd, neu, yn hytrach, cymeriad ydyw, oherwydd i'm hwyrion mae e`n real iawn.
Fel mae ei enw yn awgrymu, achub pobl rhag tân mae e; ond mae e'n arbenigwr ar bob math o achub arall hefyd ar dir ac ar y môr.
Nawr, mae'r ddelwedd hon o bobl yn cael eu hachub yn ganolog i'r Hen Destament a'r Newydd. Petai chi am ddisgrifio gwaith Duw, fyddech chi ddim ymhell ohoni petai chi'n dweud mai achub oedd ei fusnes. Yn yr Hen Destament roedd pobl Israel yn argyhoeddedig bod Duw wedi eu hachub rhag caethiwed yr Aifft, trwy law Ei was, Moses.
Cawsant eu rhyddhau fel y gallent benderfynu drostynt eu hunain eu dyfodol economaidd a gwleidyddol.
Yn ystod ei fywyd daearol, ceisiai Iesu hefyd achub pobl - nid yn unig o'u cystuddiau ysbrydol ond o bob math o glefydau corfforol. Iachawyd pobl rhag pob math o gaethiwed.
Porthwyd y newynog, adferwyd y claf a chodwyd y meirw. Cafodd pobl eu rhyddhau rhag popeth a fychanodd neu a fygythiodd neu a gyfyngodd ar eu statws fel bodau dynol. Yn wir, union ystyr yr enw "Iesu" yw "yr un sy'n achub".
'Blwyddyn ffafr'
Wrth i Iesu gychwyn ei weinidogaeth yn Nasareth, mae Sant Luc yn nodi iddo gyhoeddi iddo ddod i bregethu newyddion da i'r tlodion, rhyddhad i garcharorion, adferiad golwg i ddeillion, rhyddid i'r gorthrymedig ac i gyhoeddi blwyddyn ffafr yr Arglwydd.
Cyfeirio mae "blwyddyn ffafr yr Arglwydd" at flwyddyn Jiwbilî yr Iddewon, a oedd i fod i ddigwydd bob 50 mlynedd, pan gâi pob dyled ei dileu a phob caethwas ei ryddhau.
Nid ydym yn gwybod a gafodd y flwyddyn Jiwbilî hon ei gweithredu o gwbl; ond pregethai Iesu am ryddhau pobl rhag popeth a'u gormesai ac a'u bychanai.
Yr hyn sy'n gwbl eglur, felly, yw bod â wnelo Duw Iesu, a Duw yr Hen Destament, nid yn unig â materion ysbrydol ond â phopeth sy'n effeithio ar, neu sy'n rhwystro ffyniant y ddynoliaeth.
Os ydym yn credu ynddo, mae gofyn i ni adlewyrchu yn ein bywydau personol sut y mae Ef yn ymwneud â ni - ac ymddwyn yn rasol ac yn gyfiawn tuag at eraill.
Gellir rhifo tua 2,000 o adnodau yn y Beibl sy'n trafod tlodi a chyfiawnder. Pan fydd pobl, felly, yn beirniadu'r Eglwys am fusnesa ym myd gwleidyddiaeth, wrth iddi fynegi ei phryder ar faterion economaidd a chymdeithasol, a sut mae`r rhain yn effeithio ar y tlawd a'r bregus, mae'n deg gofyn a ydynt wedi darllen y Beibl o gwbl?
'Byw bywyd cyflawn'
Yn ôl Llyfr Dueteronomium, yr hyn y mae Duw yn ei wneud ar ôl iddo ryddhau ei bobl rhag caethiwed, yw diwallu pob angen posib - rhoi iddynt ddigonedd o fwyd a dŵr, ac adnoddau mwynol y tu hwnt i bob disgwyl, fe y gallant fyw bywydau cyflawn a phwrpasol.
Mewn caethiwed, nid oedd dewis yn bosib; bellach, wedi eu rhyddhau, roedd dewisiadau ar bob llaw.
Ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, ar gais arweinwyr mwyafrif yr eglwysi, neilltuwyd y Sul wedi Dydd Cyhoeddi Buddugoliaeth yn Ewrop, yn gyfle i Gristnogion gyfrannu beth bynnag a fedrent at godi'r cyfandir yn ei ôl.
Y penwythnos hwnnw, codwyd rhagor na £3 miliwn, yng ngwerth ein harian ni heddiw- ac fe'i defnyddiwyd i sicrhau bwyd a meddyginiaeth i ffoaduriaid, ac adnoddau i ysgolion. Dyna gychwyn elusen Cymorth Cristnogol.
Pwrpas yr elusen oedd i ddileu tlodi a'r strwythurau hynny a roddai flaenoriaeth i'r goludog a'r grymus, ar draul y tlawd a'r rhai ar gyrion cymdeithas. Nid efengylu oedd eu nod - ond yn hytrach gynnig cymorth dyngarol i'r rhai oedd eu angen, beth bynnag oedd eu ffydd.
Cyflawnodd ein heglwysi'r gwaith hwn am eu bod yn credu ei fod yn rhan gynhenid o gredu yn Nuw ac o fod yn ddisgyblion i Iesu.
Trwyddo, rhoddir i bobl yr un profiad ag a roddwyd gan Dduw i bobl Israel ganrifoedd ynghynt - sef cyfle i fyw bywyd cyflawn, yn rhydd rhag gormes tlodi. O'r braidd y gallai Cymorth Cristnogol fod wedi dychmygu y byddai'r angen am ei waith gymaint yn fwy heddiw nag y bu erioed.
Tlodi affwysol
Wyddoch chi, fod yna filiwn o bobl yn ein byd heddiw yn byw mewn tlodi affwysol, yn goroesi ar lai na dolar y dydd? Beth yw tlodi? Mae hanes Huin Nwon yn cynnig rhyw syniad i ni, oherwydd un o nodweddion bywyd pentrefi tlotaf ein byd yw prinder cyflenwad dŵr - a bod rhaid cludo pob diferyn ohono, weithiau o gryn bellter.
Golyga hyn bod gwragedd y pentrefi hyn, a gwragedd sy'n cyflawni'r gwaith yn ddieithriad, yn cael eu diraddio i fod yn dynnwyr dŵr, saith niwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn. I bob pwrpas, maen nhw wedi peidio â bod yn fodau dynol - gan droi, yn hytrach, yn beiriannau mofyn dŵr, dim ond i gadw'n fyw.
Er mai gwragedd yw hanner poblogaeth y byd, nhw yw'r mwyafrif mawr sy'n byw dan ormes tlodi heddiw.
Nid newyn yn unig yw tlodi: golyga caethiwed ddiymadferthedd hefyd - am nad oes gan bobl ddewisiadau ar wahân i dreulio pob munud o'r dydd yn ceisio goroesi. Unwaith y wnaeth Huin weithio gydag eraill i sicrhau dap dŵr yn ei phentref, fe weddnewidiwyd ei bywyd.
Fe'i rhyddhadwyd rhag y gorthrwm o fod yn dynnwr dŵr, megis anifail pwn, a rhoddwyd iddi`r dewis o dyfu cnydau a llysiau. Wrth gynorthwyo ei phentref, mae Cymorth Cristnogol yn parhau gwaith Duw o ryddhau pobl rhag caethiwed, a`u galluogi i fyw bywydau gwirioneddol ddynol - yn rhydd i arddel dewisiadau wrth benderfynu sut i fyw.
Mae'r groes bectoral dw i'n ei gwisgo heddiw yn un lliwgar iawn. Rhoddwyd un i bob Archesgob Anglicanaidd gan Archesgob o Affrica. Mae'n dangos dwylo yn ymestyn tuag at ddwylo eraill (fel sy'n cael ei grynhoi gan y gân " Dwylo dros y Môr" yn yr Eisteddfod hon.) Dyna yn union yw nod Cymorth Crisnogol - gan ymestyn tuag at y sawl sy'n dlawd ac yn anghenus.
Poblogaeth o 1.8m
Mae Cymorth Cristnogol yn cynnig cymorth dyngarol i rai o gymunedau tlotaf y byd, mewn rhyw hanner cant o wledydd. Dyna sail y cyswllt â Phalestiniaid Gasa. Er mai maint Pen Llŷn yw Gasa, mae ganddi boblogaeth o 1.8 miliwn o bobl.
Tiriogaeth yn perthyn i'r trydydd byd yw hi gyda phobl yn byw mewn siaciau sinc ar ben ei gilydd. Yn aml ceir 10 i 15 o bobl yn byw mewn un ystafell, heb gyflenwad dŵr, na thrydan a chyda carthffosydd agored ar drothwy yn rhedeg heibio i'w drysau. Cefais fy syfrdanu pan ymwelais â'r lle, ddiwedd y '90au.
Yn dilyn ei gwrthdrawiad diweddar ag Israel - sy'n ei hynysu oddiwrth weddill y byd, ar dir a môr - mae'r sefyllfa yn Gasa wedi dirywio'n enbyd. Mae angen o leiaf £2 biliwn arni i ailadeiladu ei rhwydweithiau mewnol.
Maluriwyd mwyafrif y tai yn llwyr, tra bod ffrwydron o'r awyr wedi sicrhau nad oes nemor ddim ysgolion nac ysbytai yn dal i sefyll. Mae yna dlodi materol, wrth gwrs; ond cynrychiolir y tlodi mwyaf gan gaethiwed y trigolion - fedran nhw ddim gwneud dewisiadau am eu dyfodol, gan fod agweddau a phenderfyniadau pobl eraill yn rheoli popeth.
Yr unig ffordd i ddisgrifio amodau byw'r Palestiniaid yw eu cymharu â threfn apartheid. Pan nad oes gan bobl unrhyw obaith am wella eu byd, tueddant i droi at eithafiaeth - a does dim dwywaith amdani, wrth anelu taflegrau i gyfeiriad Israel, mae'r Palestiniaid wedi porthi ofn y wlad honno mai dileu Israel yw eu nod.
Fodd bynnag, bu gor-ymateb Israel yn gyfrifol am farwolaeth 2,000 o Balestiniaid, gan gynnwys plant. Nid rhyfedd, felly, i hyd yn oed Unol Daleithiau America - cynghreiriad cryfaf Israel - ddatgan "bod dinistrio un o lochesau'r Cenhedloedd Unedig yn ddigyfiawnhad."
Cyfiawnder yw'r byrdwn
Mae'r Eglwys yng Nghymru, wedi cyllido uned ddeintyddol deithiol ers blynyddoedd lawer, dan gyfarwyddyd Cyngor Eglwysi'r Dwyrain Canol, ac wedi cyfrannu miloedd o bunnoedd er mwyn cynnal y gwaith hefyd.
Yn y pen draw, fodd bynnag, dydy cymorth, er mor werthfawr ydyw, ddim yn ddigonol, gan mai rhoi sylw i'r symptomau yn unig y mae. Cyfiawnder yw bwrdwn y Beibl - mynd i'r afael ag achosion tlodi a gorthrwm.
Os oes gen i ardd, a'i llwybrau'n anwastad, gan achosi i'm plant syrthio, trin y symptomau'n unig yr ydw i wrth rwymo eu briwiau, drosodd a thro. Mae angen i mi drwsio'r llwybr. Os oes pobl yn ein cymdeithas a'n byd yn newynu, neu'n byw mewn carterfi llaith, neu'n ddigartref, dyw tosturi ddim yn ddigon.
Mae gofyn i ni newid strwythurau er mwyn osgoi'r fath bethau. Dyna pam mai cyfiawnder yw byrdwn y Beibl, nid tosturi ar ei ben ei hun. Yn Israel / Palesteina mae rhaid wrth gytundeb heddwch cyfiawn a chynhwysfawr, fel y bydd y naill wlad a'r llall yn ffynnu.
Dyna pam y bu i Dduw ryddhau'r Hebreaid rhag caethwasaeth a'u dwyn "i wlad o nentydd a ffynhonnau, gwlad ffrwythlon yn gyforiog o wenith, barlys, gwinwydd, olew a mẻl - gwlad lle na cheid tlodi, na neb mewn angen."
Pam? Oherwydd mai dyna sut yr oedd sicrhau bod dewisiadau pwysig bywyd yn gorwedd yn eu dwylo nhw - gan gynnwys dewis "bywyd yn lle marwolaeth", fel y dywed Llyfr Deuteronomium. Dyna i chi ystyr rhyddhad - a dyna y mae Duw yn ei ewyllysio ar gyfer pob un ohonom, ei blant ef.