David Cameron yn ymweld â'r Sioe Fawr

  • Cyhoeddwyd
Cameron in Wales
Disgrifiad o’r llun,
Bu'r Prif Weinidog yn cyfarfod cwmni Halen Môn

Mae David Cameron wedi cyhoeddi cynlluniau i feithrin twf o £7bn yn y diwydiant allforio bwyd a chynnyrch fferm wrth iddo ymweld â Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd.

Fe ddatgelodd gynlluniau i "gael gwared â thâp coch" i ffermwyr.

Fe wnaeth y prif weinidog annog Llywodraeth Cymru "i wneud mwy i symleiddio archwiliadau fferm, er mwyn helpu'r diwydiant a chymunedau gwledig".

Mewn datganiad, fe ddywedodd: "Dw i'n falch iawn o fod yn Sioe Frenhinol Cymru heddiw i weld y da byw, bwyd a diod gorau yng Nghymru.

"Mae ffermio a chynhyrchu bwyd yn rhannau annatod o'n economi wledig ni."

Disgrifiad o’r llun,
Y Prif Weinidog yn cyfarfod aelodau Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Cymru

Yn ogystal, fe gyhoeddodd y bydd rhwydwaith arloesi bwyd yn rhoi "mynediad i'r gwaith ymchwil diweddara'" i 400 o fusnesau bwyd Cymreig.

Fe fydd nifer bwydydd y DU sy'n cael eu gwarchod yn cynyddu o 63 i 200 fel rhan o'r cynlluniau.

Mae disgwyl i Ham Caerfyrddin a Bara Lawr Cymreig fod ymysg y bwydydd i gael eu gwarchod.

Fe ddywedodd bod y statws eisoes wedi helpu i greu swyddi newydd ar Ynys Môn a "chynyddu allforion cig oen Cymreig".

Yn gynharach fore Iau, fe gyhoeddodd David Cameron fanylion bargen £390m i ddod â 250 o swyddi i Ferthyr Tudful.