Cymru 'ar restr fer' safle cynhyrchu Aston Martin

  • Cyhoeddwyd
Aston Martin
Disgrifiad o’r llun,
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cynnal trafodaethau gydag Aston Martin ers rhai misoedd

Mae Sain Tathan ym Mro Morgannwg wedi cyrraedd rhestr fer o ddau safle sy'n cael eu hystyried ar gyfer safle cynhyrchu newydd cwmni Aston Martin.

Mae BBC Cymru ar ddeall bod y penderfyniad bellach rhwng Sain Tathan a safle yn Coventry.

Ers rhai misoedd, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cynnal trafodaethau gydag Aston Martin.

Byddai'r safle, fydd yn cynhyrchu'r model Aston Martin newydd, yn creu cannoedd o swyddi â sgiliau.

'Creu cyfleoedd'

Fore Iau ar ymweliad â Chymru, fe ddatgelodd David Cameron bod y llywodraeth yn awyddus i geisio perswadio'r cwmni i gartrefu ei hun ym Mro Morgannwg.

"Rydyn ni hefyd eisiau gwneud mwy i ryddhau tir y sector cyhoeddus i greu cyfleoedd newydd i bobl sy'n fodlon gweithio'n galed," meddai'r prif weinidog.

"Yma yng Nghymru, rwy'n meddwl bod potensial i adael tir y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Sain Tathan, ac rydyn ni'n barod i wneud y tir ar gael fel rhan o ymdrechion i berswadio Aston Martin i gynhyrchu eu cerbyd newydd yn y DU."