Cameron: Toriadau 'ddim yn ddiwedd y byd' i Gymru
- Cyhoeddwyd

Mae David Cameron wedi dweud na fydd toriadau arfaethedig i'r DU yn golygu "diwedd y byd" i Gymru.
Eisoes mae gweinidogion Cymru wedi dweud bod toriadau o rhwng 25% a 40% ar gyfer rhai adrannau llywodraeth y DU yn newyddion drwg i Gymru a bron yn amhosib.
Gwrthododd Mr Cameron yr honiadau yn y Sioe Frenhinol ddydd Iau cyn annog Llywodraeth Cymru i roi mwy o arian i'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Beirniadu
Yr wythnos hon mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi beirniadu bwriad y Canghellor George Osborne i ofyn i rai adrannau i baratoi ar gyfer gostyngiad mawr yn eu cyllideb.
"Dyma beth ddywedodd Carwyn a Llafur yn y Senedd," meddai Mr Cameron, "fod y gostyngiadau wnaethon ni eu cyhoeddi yn golygu bod y byd am ddod i ben.
"Y gwir yw rydyn ni'n rhoi mwy o arian i'r Gwasanaeth Iechyd, er enghraifft, er, yn amlwg, yng Nghymru fe ddewisodd y llywodraeth Lafur wneud toriadau i'r Gwasanaeth Iechyd."
Dywedodd Mr Cameron mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru fyddai ymateb i'w gynllun i fuddsoddi £8bn yn fwy i wasanaethau iechyd.
Yn y Sioe cyhoeddodd gynllun £7bn ar gyfer y diwydiant allforio bwyd a chynnyrch fferm ac apeliodd ar gwmni Aston Martin i ystyried adeiladu eu car newydd yng Nghymru.
Yn gynharach, fe gyhoeddodd fanylion cytundeb £390m i drwsio cerbydau brwydro arbenigol ym Merthyr Tudful.