Gwaith i ddechrau ar bont newydd dros Afon Dyfi yn 2016
- Cyhoeddwyd

Fe allai'r gwaith adeiladu ar bont newydd dros Afon Dyfi ar yr A487 ddechrau erbyn diwedd y flwyddyn nesaf, yn ôl y Gweinidog Trafnidiaeth.
Dywedodd Edwina Hart hyn ddydd Iau wrth amlinellu camau nesaf y cynllun gwerth £24.5m.
Cafodd y cytundeb ar gyfer y cynllun ei roi i gwmni Alun Griffiths Contractors fis diwethaf a bydd cwmni Arup, ymgynghorwyr technegol ac amgylcheddol, yn ei helpu.
Fe fydd y cwmnïau yn dechrau arolygon amgylcheddol a pheirianyddol yn fuan, a bydd arddangosfa gyhoeddus yn yr hydref yn cyflwyno amlinelliad o'r cynigion ac egluro'r amserlen ar gyfer y cynllun.
Diwedd 2016
Dywedodd Ms Hart: "Dwi'n falch o weld y datblygiadau ar y prosiect pwysig hwn fydd yn gwella diogelwch, amser teithio a chadernid y rhwydwaith ar yr A487, llwybr strategol o'r gogledd i'r de ar hyd arfordir gorllewinol Cymru."
Mae'r cynllun arfaethedig yn cynnwys traphont newydd fydd yn croesi Afon Dyfi yn uwch i fyny'r afon na'r bont bresennol ger Machynlleth.
Y broblem yw bod yr un bresennol yn gul ac yn cael ei chau yn rheolaidd oherwydd llifogydd neu ddifrod gan gerbydau.
Fe allai'r gwaith adeiladu ddechrau ddiwedd 2016 os bydd yr holl brosesau statudol wedi'u cwblhau.
Mae'r arian ar gyfer y bont yn rhan o gytundeb cyllid 2015-16 rhwng Llywodraeth Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.