BBC Cymru Fyw

Ynys Môn: Bachgen wedi ei ddarganfod yn ddiogel

Published
image copyrightHeddlu Gogledd Cymru
image captionFe aeth Huw Parri ar goll amser cinio ddydd Iau

Yr heddlu wedi cadarnhau fod y bachgen 10 oed o Ynys Môn, oedd ar goll, wedi ei ddarganfod yn ddiogel ger ei gartref.

Nid oedd neb wedi gweld Huw Parri o Talwrn ers amser cinio ddydd Iau ac fe gafodd yr heddlu eu galw am 13:47.

Roedd yr heddlu wedi defnyddio hofrennydd ac uned cŵn i chwilio.

image captionRoedd yr heddlu wedi bod yn chwilio ardal Nant y Pandy neu'r Dingle yn Llangefni