Dyn yn pledio'n euog wedi i'w gi ladd ei nain
- Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi pledio'n euog i fod yn berchen ar gi peryglus oedd wedi lladd ei nain.
Bu farw Rhona Greve, 64 oed, wedi iddi gael ei brathu 16 o weithiau gan gi tarw ei ŵyr Craig.
Yn Llys y Goron Caerdydd fe wnaeth Greve, 23 oed, oedd wedi cael ei fagu gan ei nain yn ardal Trelai, Caerdydd, bledio'n euog.
Fe gyfaddefodd ido berchen ar "gi oedd yn beryglus ac allan o reolaeth anafodd Ms Greve, gan achosi ei marwolaeth".
Clywodd y llys ei fod wedi dweud wrth yr heddlu ei fod wedi dychwelyd adref a gweld ei gi, Solo, yn sefyll dros ei nain yng ngegin y tŷ lle oedd y ddau ohonyn nhw'n byw.
Cafodd Ms Greve anafiadau difrifol i'w gwddf a'i hwyneb adeg yr ymosodiad ym mis Mawrth. Bu farw yn yr ysbyty.
'Yn caru'r ci'
Clywodd y llys fod y diffynnydd wedi trosglwyddo perchnogaeth y ci i'r heddlu wnaeth ddifa'r anifail.
Dywedodd cyfreithiwr Greve, John Charles Rees, fod gan y nain broblemau difrifol gyda'i chalon ac ychwanegodd bod yr ymosodiad yn "brofiad dirdynnol" i'r diffynnydd.
Ond dywedodd ffrind bod Ms Greve yn mwynhau cwmni'r ci. "Roedd hi'n caru'r ci ac roedd yn gwmni iddi. Dydyn ni ddim yn gallu meddwl beth fyddai wedi gwneud i Solo ymddwyn fel hyn."
Fe wnaeth y Barnwr Eleri Rees ohirio'r ddedfryd tan fis Medi ac mae Greve yn y ddalfa.