Adroddiad: Cynllun taclo trais alcohol yn 'gadarnhaol'
- Published
Mae prosiect atal troseddau treisgar sy'n gysylltiedig ag alcohol mewn dinasoedd yn "gadarnhaol," yn ôl adroddiad.
Heddlu De Cymru sy' wedi bod yn targedu yfwyr a staff bariau yng Nghaerdydd ac Abertawe.
O'r rhai gafodd eu holi, mae 54% yn lle 63% yn yfed y ddiod gadarn cyn mynd allan ac mae 36% yn lle 46% yn credu ei bod yn anodd cael hwyl heb fod yn feddw.
Dywedodd adroddiad Canolfan Iechyd y Cyhoedd fod y canlyniadau hyn yn "galonogol iawn".
Mae Dirprwy Gomisiynydd Heddlu De Cymru, Sophie Howe, wedi dweud bod yr adroddiad yn "hanfodol i'n helpu ac yn nodi sut y gallwn ni wneud hyd yn oed fwy wrth fynd i'r afael â goryfed."
Anghyfreithlon
Cafodd yr ymgyrch ei lansio yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a bydd yn para drwy gydol y flwyddyn gyda'r cam nesaf yn digwydd pan fydd y myfyrwyr yn dychwelyd i'r brifysgol.
O staff y bariau gafodd eu holi, roedd 61% yn gwybod ei bod yn anghyfreithlon gweini alcohol i rywun sydd eisoes wedi meddwi tra oedd 48% o'r blaen.
Dywedodd prif awdur yr adroddiad, Zara Quigg, fod y sefyllfa yn "hynod o galonogol".
"Fodd bynnag," meddai, "mae angen mwy o ymyrraeth fel y bydd rhagor o ganlyniadau o'r fath."