Hwb o £192,000 i ganolfan yng Nghei Conna
- Cyhoeddwyd
Mae pobl leol yn dathlu bod mudiad wedi derbyn £192,000 i ddatblygu canolfan gymunedol yng Nghei Conna yn Sir y Fflint.
Y gobaith yw y bydd datblygu Canolfan Kathleen a May yn Ffordd y Doc yn creu swyddi a "rhoi'r ardal y map".
Cymdeithas Cychwyr y Cei gafodd yr arian oddi wrth y Gronfa Cymunedau Arfordirol.
Mae aelodau wedi adnewyddu'r ganolfan gafodd ei henwi ar ôl llong Kathleen a May gafodd ei hadeiladu yng Nghei Conna yn 1900.
Oherwydd yr arian bydd modd codi to newydd, gosod insiwleiddio, gwres canolog, llawr dawnsio a chamerâu cylch cyfyng.
Dywedodd y trefnwyr taw'r nod yn y pen draw fyddai canolfan etifeddiaeth, caffi a theithiau cychod.
'Chwe blynedd'
Dywedodd Keith Marland o'r mudiad: "Ers chwe blynedd rydym wedi gorfod codi arian felly bydd yn bleser gweld rhywun arall yn gwneud yr holl waith.
"Roedd paratoi'r cais yn golygu llawer iawn o waith ond mae'r hwb yn enfawr ac rydym ar ben ein digon.
"Mi fydd yn rhoi'r cei ar y map. Yn 1963 roedd 43 o siopau o fewn 200 llath i'r doc. Gobeithio y bydd hyn yn digwydd eto."
Dywedodd yr AC Carl Sargeant: "Dwi'n falch iawn fod yr arian wedi dod.
"Ers blynyddoedd mae'r cychwyr wedi bod yn gweithio'n galed ac erbyn hyn mae'r arian ar gael i droi breuddwyd yn ffaith.
"Dwi'n dymuno'n dda iddyn nhw."