Corff dyn wedi'i ddarganfod ar faes y Sioe Frenhinol
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd ardal o amgylch bloc o doiledau ei chau gan yr heddlu
Mae corff dyn wedi ei ddarganfod ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.
Fe gafodd ardal o amgylch bloc o doiledau ei chau i ffwrdd gan yr heddlu ar ddiwrnod olaf y Sioe ddydd Iau.
Dywedodd yr heddlu: "Am tua 15:00 ddydd Iau, fe gafodd yr heddlu eu gwneud yn ymwybodol o ddyn oedd yn wael mewn toiledau cyhoeddus yn y Sioe Frenhinol.
"Yn anffodus, roedd y dyn 39 oed wedi marw."
Mae ei deulu a'r crwner wedi cael eu gwneud yn ymwybodol o'i farwolaeth, a dyw'r heddlu ddim yn ei drin fel un amheus.