Saith heddwas o Gymru yn droseddwyr

  • Cyhoeddwyd
Police officer
Disgrifiad o’r llun,
Fe gafwyd 309 o heddweision yn euog o droseddau ar draws y DU

Fe gafodd chwech o heddweision yng ngogledd Cymru ac un o heddwas Dyfed Powys eu cael yn euog o droseddau yn y tair blynedd diwethaf.

Roedd y troseddau'n cynnwys trosedd rhyw, ymosodiad, yfed a gyrru a goryrru.

Ni chafodd ffigyrau Heddlu'r De a Heddlu Gwent eu rhyddhau, wedi i gais rhyddid gwybodaeth i holl luoedd y DU ddangos bod 309 o heddweision wedi eu cael yn euog o droseddau.

Dim ond 25 o'r 45 llu wnaeth ryddhau eu ffigyrau.

26 o droseddwyr

Dywedodd Heddlu'r Gogledd bod sarjant wedi ei gael yn euog o yrru heb drwydded a defnyddio ffôn symudol wrth yrru yn 2012. Fe gafodd un heddwas ei gael yn euog o yrru'n ddiofal a chafodd un arall ei rybuddio am drosedd diogelu gwybodaeth.

Yn 2013, fe gafwyd un heddwas yn euog o yfed a gyrru, ac un arall o ymosodiad.

Fe gafwyd cwnstabl yn euog o drosedd rhyw yn 2014, yn ogystal â heddwas arall o oryrru.

Dywedodd y llu bod 26 o'i swyddogion presennol wedi eu cael yn euog o drosedd.

Yn llu Dyfed Powys, fe gafwyd heddwas yn euog o ddifrod troseddol yn 2012.

Fe wnaeth Heddlu'r De wrthod y cais ar sail cost, ac ni chafwyd ymateb gan Heddlu Gwent.