Carcharu dyn o Wynedd am droseddau cyffuriau
- Cyhoeddwyd

Mae dyn 29 oed o Wynedd wedi ei ddedfrydu i ddwy flynedd o garchar am droseddau'n ymwneud â chyffuriau.
Fe blediodd Cei William Owens o Ceunant, Aberdyfi, yn euog i'r pum cyhuddiad yn ei erbyn yn Llys y Goron Abertawe mewn gwrandawiad blaenorol, yn cynnwys bod â chyffuriau Dosbarth A a B yn ei feddiant, a chynnig cyflenwi cyffuriau.
Fe gafodd Owens, sydd bellach yn byw yn Llanbadarn Fawr, ei arestio y llynedd fel rhan o ymgyrch yn erbyn cyflenwi cyffuriau anghyfreithlon ar y we.
Mae'n un o chwech o bobl a gafodd eu harestio drwy Brydain, yn cynnwys dau arall o Wynedd.
Yn ei ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Ian Murphy: "Rydych chi'n ddyn ifanc talentog sydd yn amlwg â photensial. Un anffodus, er hyn, fe wnaethoch chi ddewis i ddechrau ar y fenter soffistigedig yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2015