Buddsoddiad £1m i gymunedau arfordirol
- Published
Bydd pump o brosiectau arfordirol ar draws Cymru yn rhannu buddsoddiad gwerth £1 miliwn.
Trwy Gronfa Cymunedau Arfordirol, mae'r grantiau ar gael i ariannu prosiectau sy'n hybu economi cymunedau arfordirol ledled y DU.
Daw'r arian o Gronfa'r Loteri Fawr ar ran Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: "Rydym yn lwcus iawn yng Nghymru fod gennym arfordir gwych sydd â golygfeydd ac atyniadau heb eu hail.
"Bydd y cyllid a ddyfarnwyd heddiw yn galluogi cymunedau arfordirol i fanteisio i'r eithaf ar y nodweddion naturiol hyn, gan wella potensial yr ardal o ran denu twristiaid a sbarduno twf a swyddi lleol."
Y pum prosiect
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn un o'r pump fydd yn elwa gan dderbyn £300,000 i greu llwybr beicio a cherdded newydd.
Bydd Cyngor Sir Fflint yn derbyn £293,135 i wella eu rhan o Lwybr Arfordir Cymru. Yn ychwanegol, bydd yr arian yn mynd tuag at greu llwybr cysylltu rhwng Clawdd Offa a Llwybr Arfordir Cymru a gwella'r seilwaith i'r ymwelwyr. Bydd yr arian hefyd yn mynd tuag at hyrwyddo Arfordir Sir y Fflint.
Bydd y Quay Watermen's Association yn derbyn £192,672 i hyrwyddo datblygiad Doc Cei Conna drwy adnewyddu'r hen adeilad Cadetiaid Môr i greu canolfan i ymwelwyr a'r gymuned leol.
Fe fydd Cynllun Newydd i Adfywio Cymuned Sandfields Aberafan ac Afan yn derbyn £231,525 i gynnal cyfres o ddigwyddiadau i dwristiaid i ddenu rhagor o ymwelwyr i arfordir Aberafon.
Mae Surf More South Wales i dderbyn £50,000 i sefydlu ysgol syrffio ar Draeth Aberafan.