Traeth dros dro i Fae Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Argraff arlunydd o'r traeth ar Fae Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,
Argraff arlunydd o'r traeth ar Fae Caerdydd

Bydd traeth dros dro yn dod i Fae Caerdydd gyda'r gobaith o ddenu dros 250,000 o ymwelwyr.

Y bwriad yw trawsnewid Plass Roald Dahl, o flaen Canolfan y Mileniwm Caerdydd, yn draeth trefol.

Yr amcan yw bod angen defnyddio 300 tunnell o dywod er mwyn creu'r traeth dros dro. Mae'n rhan o Ŵyl Caerdydd sy'n cael ei chynnal trwy'r Haf.

Mae'r trefnwyr, Sayers Amusements yn dweud bod y traeth wedi bod yn "hynod boblogaidd ers ei sefydlu dwy flynedd yn ôl."

"Mae rhai datblygiadau wedi eu gwneud i'r traeth ers y llynedd a bydd ymwelwyr yn gallu edrych ymlaen at ddod a'u plant i lawr i'r Bae am ddiwrnod llawn hwyl mewn lle diogel."