Barnu cyflog £95,000 Llywodraeth Cymru

  • Cyhoeddwyd
hysbyseb swyddFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r hysbyseb swydd i'w weld ar wefan Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi eu barnu gan y Ceidwadwyr Cymreig am y cyflog sy'n cael ei gynnig mewn hysbyseb swydd i gyflogi Comisiynydd newydd i Gymru.

Mae'r swydd ddisgrifiad yn cynnig cyflog o £90,000 i £95,000 i'r ymgeisydd llwyddiannus.

Daeth beirniadaeth gan y Ceidwadwyr Cymreig bod y cyflog "bedair gwaith yn fwy na'r cyflog cyfartalog yng Nghymru".

Mae'r swydd 'Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru' yn cael ei chreu wedi i fil gael ei basio yn y Cynulliad yn gynharach eleni.

Rôl 'Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru', yn ôl y swydd ddisgrifiad "yw gweithredu fel gwarchodwr ar ran buddiannau cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru."

Daeth beirniadaeth gan Nick Ramsey bod yr hysbyseb swydd ddiweddaraf yma'n "un arall mewn rhestr hir o apwyntiadau cyhoeddus ar ran Llywodraeth Cymru sy'n gostus ar bocedi'r trethdalwyr."

Ymateb

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein hagwedd at sicrhau lles cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru wedi cael ei ganmol yn fyd-eang gyda'r Cenhedloedd Unedig yn nodi bod 'yr hyn sy'n cael ei wneud yng Nghymru heddiw'n efelychu'r hyn bydd gwledydd eraill y byd yn ei wneud yfory'."

"Mae rôl y comisiynydd yn hanfodol i lwyddiant ein hymgyrch i gefnogi cyrff cyhoeddus mewn dod o hyd i ddatrysiadau cynaliadwy i'r her mae cymunedau'n ei wynebu.

"Mae'n siomedig i ni na fedr pawb weld lles y to ifanc fel blaenoriaeth."