Galw ar lywodraeth i dalu costau meddygon
- Cyhoeddwyd

Mae corff newydd sy'n cynrychioli meddygon teulu wedi galw ar Lywodraeth Cymru i dalu costau ychwanegol i feddygon sy'n gweithio y tu allan i'w horiau arferol.
Dywedodd corff GP Survival wrth raglen Good Evening Wales ar BBC Radio Wales bod cost y taliad yn "rwystr" i sicrhau bod cleifion yn derbyn triniaeth.
Mae'r yswiriant yn amddiffyn meddygon rhag achosion llys, ac mae'n "fwy na £15,000" am swydd llawn amser sydd y tu allan i oriau arferol, yn ôl y grŵp.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ymchwilio i bosibiliadau ynghylch yr yswiriant.
Cam ymlaen
Yn ôl cynrychiolydd y grwp yng Nghymru, Sophie Quinney: "Drwy gael gwared ar y costau ychwanegol yma, gallwn gynnig sesiynau y tu allan i oriau arferol, a byddai hynny'n gam agosach at gael trin cleifion.
"Mae hyn yn rhywbeth yr ydyn ni'n teimlo sy'n bwysig iawn yng Nghymru. Rydyn ni'n wynebu dyblu costau gwarantu digolledion heb reswm dros wneud hynny."
Dywedodd Dr Quinney, sy'n gweithio ym Mlaenau Gwent, bod y grwp wedi ei sefydlu er mwyn cynrychioli barn meddygon teulu ar lawr gwlad.
Mae hi o'r farn bod awdurdodau mwy fel y Gymdeithas Feddygol Brydeinig a Choleg Brenhinol y Meddygon Teulu wedi tyfu'n rhy fawr a bod gormod o fiwrocratiaeth.
Tal ychwanegol
Mae meddygon yn cael tal ychwanegol i weithio y tu allan i oriau arferol, ond gwadodd Dr Quinney bod ei galwad yn ymgais i sicrhau mwy o gyflog.
"Os ydyn ni am weld gwasanaethau y tu allan i oriau arferol yn rhedeg yn fwy effeithlon yng Nghymru yna rydyn ni angen mwy o feddygon teulu i ddarparu'r gwasanaeth.
"Nid yw hyn am gael fwy o arian; mae hyn am sicrhau bod y system yn fwy cynnaladwy."
Dywedod llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n ymchwilio i gamau allwn ni eu cymryd yn ymwneud a'r trothwy sy'n deillio o yswiriant i arbed digolledion proffesiynol."
Cefnogi
Ychwanegodd Dr David Bailey, Dirprwy Gadeirydd BMA Cymru: "Rydym ni'n cefnogi'r uchelgais hon. Mae meddygon teulu'n dan bwysau mawr. Mae'r BMA wedi bod yn rhybuddio gweinidogion a'r gwasanaethau sifil fod yna argyfwng ers peth amser.
"Er gwaethaf hyn, mae trafodaethau wedi eu cyfyngu gan y ffaith bod llywodraethau'n gallu gorfodi penderfyniad, hyd yn oed pan fo gweithwyr o fewn y proffesiwn ei hun yn anghytuno. Felly, mae'n rhaid i ni ddod i gytundeb ar y telerau gorau posib."