Ffyrnau golosg: Gobaith am iawndal?
- Cyhoeddwyd

Mae cyfreithwyr sy'n cynrychioli mwy na 350 o weithwyr ffyrnau golosg a'u teuluoedd yn gobeithio y bydd gwrandawiad yn yr Uchel Lys yn nodi carreg filltir bwysig ym mrwydr y dynion i hawlio iawndal am salwch maen nhw'n credu gafodd ei achosi gan amodau gwaith.
Yn ei anterth, roedd y diwydiant golosg yn cynnig cyflog da a gwaith sefydlog i filoedd o ddynion ar 13 safle, yn cynnwys Trevor Evans - 81 oed o Lantrisant.
Mae Mr Evans yn un o 199 o bobl o dde Cymru fydd yn rhan o'r gwrandawiad yn yr Uchel Lys ddydd Mawrth.
Fe dreuliodd naw mlynedd yn gweithio yn un o safleoedd golosg y Bwrdd Glo Cenedlaethol - gan bobi glo ar dymheredd uchel er mwyn llosgi nwyon a chol-tar.
"Roedd yn llychlyd, hynod lychlyd," meddai.
"Pan oedden nhw'n rhawio'r glo i'r ffwrn i greu'r golosg, roedd y mwg du. Wrth gwrs, roedd gennych chi'r safle benzol, y safle tar. Roedd 'na leoedd gwael yno."
Emffysema
Fe wnaeth Mr Evans ymddeol o'i swydd dros 25 mlynedd yn ôl. Yn fuan wedi hynny - wedi iddo gael trafferthion anadlu - fe gafodd ddiagnosis o emffysema.
Mae ei obeithion am iawndal yn deillio o ddyfarniad yn 2012 pan gafodd gweithwyr safle Phurnacite yng Nghwm Cynon iawndal wedi achosion o ganser yr ysgyfaint, canser y croen a chyflyrau ar y fron, yn cynnwys emffysema a broncitis.
Roedd Kathryn Singh o gwmni cyfreithwyr Hugh James yng Nghaerdydd yn rhan o achos Phurnacite, a'r achos diweddaraf.
"Fe agorodd achos Phurnacite y drws i'r achos sy'n mynd yn ei flaen ar hyn o bryd, gan fod yr amodau gweithio yn debyg iawn," meddai.
'Cyflymu'r broses'
Yn ei rôl fel ysgrifennydd cyffredinol undeb NACODS yng Nghymru, roedd Bleddyn Hancock yn rhan o'r achos Phurnacite yn 2012. Yn ddiweddarach, bu'n gyfrifol am ddechrau'r achos sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd.
Mae o'n gobeithio y bydd y barnwr yn cyhoeddi Gorchymyn Cydrwymedig.
"Mae hynny'n golygu y gall y barnwr ddewis hanner dwsin, neu ddeg falle, o achosion, ac edrych ar y rheiny'n fanylach," meddai Mr Hancock.
"Fe fydd y grŵp bychan hwnnw'n cynrychioli'r holl safleoedd ffyrnau golosg 'dy ni'n edrych arnyn nhw, ac felly fe fydd y dyfarniad yn effeithio ar bawb ymhob safle.
"Fe fydd yn cyflymu'r broses yn eithriadol, a gobeithio y cawn ni iawndal i'r holl bobl gafodd eu heffeithio."
Mae'r Adran Ynni a Newid Hinsawdd - y diffynnydd yn yr achos - wedi gwrthod gwneud sylw cyn y gwrandawiad.
Gallwch glywed mwy am yr achos ar Eye on Wales, BBC Radio Wales, 12:30 dydd Sul, 26 Gorffennaf.