Gosod torch i gofio awdur fu farw yn yr Ail Ryfel Byd

  • Cyhoeddwyd
St Catherine's ArthogFfynhonnell y llun, Hefin Richards
Disgrifiad o’r llun,
Bydd y gwasanaeth yn cael ei gynnal yn Eglwys Santes Catrin yn Arthog

Mae gwasanaeth yn cael ei gynnal yng Ngwynedd ddydd Sul i nodi 75 mlynedd ers marwolaeth Cymro oedd â gwobr lenyddol wedi ei henwi ar ei ôl.

Bydd torch yn cael ei gosod yn y gwasanaeth yn Arthog er cof am John Llewellyn Rhys - awdur ifanc fu farw wrth ei waith gyda'r Awyrlu yn 1940.

Am bron i 70 mlynedd, roedd Gwobr John Llewellyn Rhys yn cael ei chyflwyno am y gwaith gorau gan awdur ifanc o'r Gymanwlad.

Fe gafodd y wobr ei chyflwyno i rai o awduron enwoca' Prydain.

Daeth y wobr i ben yn 2011 oherwydd trafferthion ariannol.