BBC Cymru Fyw

Drama 'Grav' yn dod adref i Fynydd-y-Garreg

Published
image copyrightGetty Images
image captionRay Gravell yn cynrychioli'r Llewod yn Ne Affrica yn 1980

Mae drama am fywyd Ray Gravell yn cael ei pherfformio ym Mynydd-y-Garreg - cartref Grav - ddydd Sadwrn, cyn symud ymlaen i Ŵyl Caeredin.

Fe fydd teulu a ffrindiau un o gewri'r byd rygbi yng Nghymru yn ymuno i wylio 'Grav' yn neuadd y pentref yn Sir Gâr.

Bu farw Gravell yn 2007 yn 56 oed wedi cymhlethdodau'n ymwneud â chlefyd siwgr.

Mae'r sioe-un-dyn wedi bod ar daith ers mis Ionawr eleni.

Wedi'r perfformiad arbennig ddydd Sadwrn, bydd y cynhyrchiad yn symud i Ganoldan Chapter yng Nghaerdydd, cyn teithio i Gaeredin dros yr haf.