Morgannwg allan o'r T20
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd gobeithion Morgannwg o gyrraedd rownd go-gyn-derfynol y T20 eu chwalu nos Wener, wrth iddyn nhw gael eu trechu gan Sir Gaerloyw.
Wedi oedi hir oherwydd y glaw, fe gafodd y gêm ei chwtogi i bum pelawd yr un.
Fe ddewisodd Sir Gaerloyw fowlio, gan gyfyngu Morgannwg i 45-1 o'u pum pelawd.
Colin Ingram oedd y prif sgoriwr gyda 18.
Fe gyrhaeddodd yr ymwelwyr eu cyfanswm yn rhwydd, wrth i Chris Dent gyrraedd 28 o 11 pêl er mwyn sicrhau buddugoliaeth gyfforddus â saith pêl yn weddill.