Arestio dyn am ladrad siop yng Nghaerfyrddin â chyllell
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd arian ei ddwyn o siop Spar ar Heol y Brenin ddydd Llun
Mae dyn 27 oed wedi ei arestio mewn cysylltiad â lladrad o siop yng Nghaerfyrddin.
Fe gafodd arian ei ddwyn o siop Spar ar Heol y Brenin gan ddyn oedd yn cario cyllell ddydd Llun.
Ddydd Sadwrn, dywedodd Heddlu Dyfed Powys bod dyn wedi ei arestio ar amheuaeth o ladrad, ac mae'n cael ei gadw yn y ddalfa.
Dywedodd y llu ei fod yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad.